Ewch yn syth i’r prif gynnwys
Porth y Llywodraeth

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Porth y Llywodraeth

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster i’w ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Porth y Llywodraeth, sydd ar gael yn https://www.access.service.gov.uk. Nid yw’n cwmpasu’r gwasanaethau hynny a gyrchir trwy Borth y Llywodraeth a ddarperir gan adrannau’r Llywodraeth.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae Porth y Llywodraeth wedi’i ddarparu gan Gyllid a Thollau EF i adrannau’r Llywodraeth er mwyn galluogi defnyddwyr i fewngofnodi i’w gwasanaethau ar-lein yn ddiogel.

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i redeg gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Nid oes unrhyw broblemau hygyrchedd hysbys yn y gwasanaeth hwn.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Beth i’w wneud os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS), neu’r Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth text relay os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 5 Mehefin 2023 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (Digital Accessibility Centre). Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.

Paratowyd y dudalen hon ar 9 Medi 2019. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 8 Ebrill 2024.