Ewch yn syth i’r prif gynnwys
Porth y Llywodraeth

Cwcis

Caiff ffeiliau bach (a elwir yn ’cwcis’) eu gosod ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut yr ydych yn pori’r wefan.

Defnyddir cwcis i:

  • mesur sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn iddi gael ei diweddaru a’i gwella ar sail eich anghenion
  • cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld er mwyn i chi beidio â’u gweld eto

Ni ddefnyddir cwcis GOV.UK i’ch enwi’n bersonol.

Fel arfer, byddwch yn gweld neges ar y wefan cyn i gwci gael ei storio ar eich cyfrifiadur.

Rhagor o wybodaeth am sut i reoli cwcis (yn agor tab newydd).

Eich dewisiadau cwcis ar gyfer Porth y Llywodraeth

A ydych am dderbyn cwcis dadansoddol?

Sut y caiff ein cwcis eu defnyddio

Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Mae meddalwedd Google Analytics yn casglu gwybodaeth am sut yr ydych yn defnyddio’r wefan. Gwneir hyn er mwyn helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr, ac er mwyn helpu i’w gwella.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw – faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut y gwnaethoch gyrraedd y wefan
  • yr hyn yr ydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan

Nid ydym yn casglu nac yn storio’ch gwybodaeth bersonol (er enghraifft, eich enw neu’ch cyfeiriad), felly nid oes modd defnyddio’r wybodaeth hon i’ch enwi.

Ni chaiff Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddi.

Defnyddir y cwcis canlynol:

Enw Pwrpas Yn dod i ben
_basga_gid Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 24 awr
_basga Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 2 flynedd

Sesiynau

Caiff cwci ei osod i gofnodi’r gweithgarwch yn ystod eich sesiwn.

Enw Pwrpas Yn dod i ben
apsc Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau’ch porwr
wsc Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau’ch porwr
mfarm Yn cofio’r ddyfais a’r porwr rydych yn eu defnyddio ac yn dweud wrthym am beidio â gofyn i chi am godau cyrchu 7 diwrnod
hcc Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau’ch porwr

Dewis Iaith

Caiff cwci ei storio er mwyn sicrhau bod y wefan yn dangos y testun yn eich dewis iaith.

Enw Pwrpas Yn dod i ben
lang Mae hyn yn cofio p’un a ydych wedi dewis gweld y cynnwys yn Gymraeg neu yn Saesneg Pan fyddwch yn cau’ch porwr

Caniatâd ar gyfer cwcis

Byddwch yn gweld baner caniatâd ar gyfer cwcis pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf. Caiff cwci ei storio fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i hateb ac yn gwybod i beidio â gofyn eto.

Enw Pwrpas Yn dod i ben
aoc Yn cadw eich dewisiadau o ran caniatâd ar gyfer cwcis 1 flwyddyn

Gwasanaethau’r llywodraeth

Caiff y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym yn cysylltu â nhw eu rhedeg gan wahanol adrannau’r llywodraeth, er enghraifft Cyllid a Thollau EF (CThEF) neu’r Swyddfa Gartref. Mae’n bosibl y bydd y gwasanaethau hyn yn gosod cwcis ychwanegol ac, os felly, bydd ganddynt eu polisi eu hunain ar gwcis.