Ewch yn syth i’r prif gynnwys
Porth y Llywodraeth

Telerau ac amodau

Mae’r dudalen hon ac unrhyw dudalennau y mae’n cysylltu â nhw yn esbonio’r telerau ar gyfer defnyddio Porth y Llywodraeth. Mae’n rhaid i chi gytuno â’r rhain er mwyn defnyddio Porth y Llywodraeth.

Pwy ydyn ni

Mae Porth y Llywodraeth wedi’i ddarparu gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i adrannau’r Llywodraeth er mwyn galluogi defnyddwyr i fewngofnodi i’w gwasanaethau ar-lein yn ddiogel. O hyn ymlaen, cyfeirir at CThEF fel ‘ni’.

Defnyddio Porth y Llywodraeth

Rydych yn cytuno i ddefnyddio Porth y Llywodraeth at ddibenion cyfreithlon yn unig. Mae’n rhaid i chi hefyd ei ddefnyddio mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau unrhyw un arall, nac mewn modd sy’n cyfyngu ar neu’n rhwystro unrhyw un arall rhag defnyddio neu gael mwynhad o’r wefan hon.

Gallwn newid neu ddileu cynnwys yn y gwasanaeth ar unrhyw adeg heb rybudd.

Eich data

Rydym yn casglu data amdanoch er mwyn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd a’r polisi cwcis i gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn diogelu ac yn parchu’r data sy’n cael eu casglu oddi wrthych. Trwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth, rydych yn cytuno â’r polisïau ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata yr ydych yn eu rhoi yn gywir.

Nid ydym yn rhannu’ch data â sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.

Mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio offer awtomatiaeth er mwyn mewnbynnu data i Borth y Llywodraeth nac i’w lywio.

Hawlfraint a hawliau eiddo deallusol

Cwmpasir y cynnwys ar y gwasanaeth hwn gan hawlfraint y Goron neu hawlfraint trydydd parti.

Marciau perchnogol CThEF yw’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n enwi CThEF. Ni chaniateir copïo ein logos na logos trydydd parti eraill a gyrchir drwy’r gwasanaeth hwn heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint berthnasol.

Cysylltiadau i Borth y Llywodraeth

Dylech gyrchu Porth y Llywodraeth drwy wefannau adrannau’r Llywodraeth. Os ydych yn defnyddio nodau tudalen bydd yn dal i fod yn rhaid i chi fewngofnodi, ac efallai na chewch eich tywys i’r dudalen yr ydych wedi ei nodi.

Cysylltiadau o Borth y Llywodraeth

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau’r Llywodraeth yr ydym yn cysylltu â nhw ac nid ydym:

  • yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt
  • yn gallu sicrhau eu dibynadwyedd neu y bydd y cysylltiadau iddynt yn gweithio
  • yn gyfrifol am y cynnwys, gan gynnwys yr hysbysiadau preifatrwydd

Dylech ddarllen pob un o’r telerau a’r amodau, a’r hysbysiadau preifatrwydd sy’n ymwneud â gwefannau’r Llywodraeth cyn i chi eu defnyddio.

Ymwadiad

Rydym wedi ymrwymo i gadw Porth y Llywodraeth yn gyfredol, ond ni allwn sicrhau y bydd yr wybodaeth yn:

  • ddiogel
  • cywir
  • cyflawn
  • rhydd o namau neu firysau

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i ddata ac elw y gallwch ei ddioddef o ganlyniad i ddefnyddio Porth y Llywodraeth.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Mae’n rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, ceffylau pren Troea (trojans), mwydod, bomiau rhesymeg, nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol.

Mae’n rhaid i chi beidio â cheisio cyrchu Porth y Llywodraeth, y gweinydd y mae wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data sydd wedi’i gysylltu ag ef heb awdurdod.

Mae’n rhaid i chi beidio ag ymosod ar Borth y Llywodraeth mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau sy’n sicrhau nad yw’r gwasanaeth ar gael.

Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ymosodiadau neu gynigion i gyrchu Porth y Llywodraeth heb awdurdod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol, ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch â nhw.

Cyfraith sy’n rheoli

Rheolir y telerau a’r amodau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Ymdrinnir ag unrhyw anghydfod sydd gennych sy’n ymwneud â’r telerau a’r amodau hyn, gan lysoedd Cymru a Lloegr.

Os newidiwn y telerau a’r amodau hyn, neu’r hysbysiad preifatrwydd, rhown wybod i chi y tro nesaf y mewngofnodwch i Borth y Llywodraeth.

Gwnaethom ddiweddaru’r telerau a’r amodau hyn ddiwethaf ym mis Mehefin 2018.